# The Pharmacy Order 2010, Paragraph 69: Diwygio Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008


Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 (dehongli)—
(a) yn lle’r diffiniad o “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) rhodder—
“(a) ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi’i gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) rhodder—
“(c) ystyr “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) yw busnes manwerthu fferyllol yng Nghymru sydd am y tro wedi’i gofnodi yn Rhan 3 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010 (cofrestru mangreoedd);”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2010/9780111487358/schedule/4/paragraph/69 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/draft-pharmacy-order-2010/schedule-4/paragraph-69
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

