# The Public Services Reform (Scotland) Act 2010 (Consequential Modifications of Enactments) Order 2011, Paragraph 43


Yn Atodlen 1 i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(tramgwyddau penodedig, personau perthnasol a restri perthnasol)—
(a) ar ôl paragraff 12 mewnosoder—
“12A. Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a) adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);
(b) adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu
(c) adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”;
(b) ar ôl paragraff 28(dd)—
(i) hepgorer “neu” a
(ii) mewnosoder—
“(dda) Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010; neu”;
(c) ar ôl paragraff 30 mewnosoder—
“30A. Gwrthodwyd i’r person, ar unrhyw adeg gofrestru, fel darparydd asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymwyd ei gofrestriad o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2011/9780111513903/schedule/2/paragraph/43 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/draft-public-services-reform-scotland-act-2010-consequential-modifications-of-enactments-order-2011/schedule-2/paragraph-43
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

