{
  "url": "https://openlegislation.uk/draft-public-services-reform-scotland-act-2010-consequential-modifications-of-enactments-order-2011/schedule-2/paragraph-66",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/draft-public-services-reform-scotland-act-2010-consequential-modifications-of-enactments-order-2011/schedule-2/paragraph-66.json",
  "legislation": "ukdsi/2011/9780111513903",
  "legislation_title": "The Public Services Reform (Scotland) Act 2010 (Consequential Modifications of Enactments) Order 2011",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/draft-public-services-reform-scotland-act-2010-consequential-modifications-of-enactments-order-2011",
  "path": "schedule/2/paragraph/66",
  "kind": "paragraph",
  "number": "66",
  "heading": null,
  "text": "Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010—\n(a) yn Atodlen 1 (gorchmynion etc mewn perthynas â gofal plant).\n(i) ym mharagraff 17 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad)—\n(aa) hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (d);\n(bb) ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—\n“;neu\n(e) Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;\n(ii) ym mharagraff 20 (gwrthod neu anghymhwyso rhag cofrestriad)—\n(aa) hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (f);\n(bb) ar ôl is-baragraff (ff) mewnosoder—\n“;neu\n(g) Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;\n(iii) ar ôl paragraff 23 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad) mewnosoder—\n“23A. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”;\n(b) yn Atodlen 2 (tramgwyddau statudol a ddiddymwyd) ar ôl paragraff 1(6) mewnosoder—\n“(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001—\n(a) adran 21 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru);\n(b) adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu\n(c) adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).”;\n(c) yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig) rhodder y canlynol yn lle paragraff 2(8) (tramgwyddau mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant)—\n“(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—\n(a) adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);\n(b) adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu\n(c) adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "O.S. 2010/1703 (Cy.163), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Atodlen hon."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2011/9780111513903/schedule/2/paragraph/66",
    "retrieved_at": "2026-10-30T14:53:08.267270+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}