# The Public Services Reform (Scotland) Act 2010 (Consequential Modifications of Enactments) Order 2011, Paragraph 66


Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010—
(a) yn Atodlen 1 (gorchmynion etc mewn perthynas â gofal plant).
(i) ym mharagraff 17 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad)—
(aa) hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (d);
(bb) ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—
“;neu
(e) Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;
(ii) ym mharagraff 20 (gwrthod neu anghymhwyso rhag cofrestriad)—
(aa) hepgorer “neu” pan fo’n digwydd ar ôl is-baragraff (f);
(bb) ar ôl is-baragraff (ff) mewnosoder—
“;neu
(g) Rhan 5 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.”;
(iii) ar ôl paragraff 23 (gwrthod neu ddiddymu cofrestriad) mewnosoder—
“23A. Gwrthod, ar unrhyw adeg, cais gan P i gofrestru fel darparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ddiddymu unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.”;
(b) yn Atodlen 2 (tramgwyddau statudol a ddiddymwyd) ar ôl paragraff 1(6) mewnosoder—
“(7) Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001—
(a) adran 21 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru);
(b) adran 22 (datganiadau ffug mewn ceisiadau); neu
(c) adran 29(10) (tramgwyddau o dan reoliadau).”;
(c) yn Atodlen 3 (tramgwyddau penodedig) rhodder y canlynol yn lle paragraff 2(8) (tramgwyddau mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd i blant)—
“(8) Tramgwydd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gofal plant neu ofal dydd i blant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau canlynol Deddf Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a) adran 78 (tramgwyddau o dan reoliadau);
(b) adran 80 (tramgwyddau ynglŷn â chofrestru); neu
(c) adran 81 (datganiadau ffug mewn ceisiadau).”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2011/9780111513903/schedule/2/paragraph/66 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/draft-public-services-reform-scotland-act-2010-consequential-modifications-of-enactments-order-2011/schedule-2/paragraph-66
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

