{
  "url": "https://openlegislation.uk/draft-representation-of-the-people-postal-and-proxy-voting-etc-amendment-regulations-2023/schedule-12/part-1",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/draft-representation-of-the-people-postal-and-proxy-voting-etc-amendment-regulations-2023/schedule-12/part-1.json",
  "legislation": "ukdsi/2023/9780348249682",
  "legislation_title": "The Representation of the People (Postal and Proxy Voting etc.) (Amendment) Regulations 2023",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/draft-representation-of-the-people-postal-and-proxy-voting-etc-amendment-regulations-2023",
  "path": "schedule/12/part/1",
  "kind": "part",
  "number": "1",
  "heading": "New Part 2 of Schedule 1 (Welsh versions of forms of words)",
  "text": "“PART 2\nWelsh version of questions to be put to voters\nPerson sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio\nCwestiynau\n1 Person sy’n gwneud cais fel etholwr\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr etholwyr fel a ganlyn (rhaid i chi ddarllen yn uchel y cofnod cyfan o’r gofrestr)? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, ac eithrio fel dirprwy i rywun arall? [R]\n2 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw yn ymddangos fel A B ar y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]\n(c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R]\n(d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R]\n(e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n(f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n3 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar gyfer etholwr â chofnod dienw (yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2)\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person y mae hawl ganddo bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]\n(c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R]\n(d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R]\n(e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n(f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n5 Person sy’n gwneud cais fel etholwr y mae cofnod ganddo ar y rhestr pleidleiswyr post\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post?\n(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post?\n6 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y mae cofnod ganddo ar y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?\n(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?\n”",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2023/9780348249682/schedule/12/part/1",
    "retrieved_at": "2026-10-30T14:43:07.310455+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}