Part 1 New Part 2 of Schedule 1 (Welsh versions of forms of words)
“PART 2
Welsh version of questions to be put to voters
Person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio Cwestiynau 1 Person sy’n gwneud cais fel etholwr (za) Beth yw’ch enw?
(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?
(a) Ai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr etholwyr fel a ganlyn ( rhaid i chi ddarllen yn uchel y cofnod cyfan o’r gofrestr)? [R]
(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, ac eithrio fel dirprwy i rywun arall? [R]
2 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy (za) Beth yw’ch enw?
(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?
(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw yn ymddangos fel A B ar y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]
(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]
(c) Ai chi yw gŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, plentyn neu ŵyr/wyres C D? [R]
3 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar gyfer etholwr â chofnod dienw (yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2) (za) Beth yw’ch enw?
(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?
(a) Ai chi yw’r person y mae hawl ganddo bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]
(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]
(c) A ydych yn ŵr/gwraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn dad-cu/mam-gu, yn frawd/chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr/wyres i’r etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]
4 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy os na roddir ateb cadarnhaol i’r cwestiwn yng nghofnod 2(c) neu 3(c) (os ydynt yn berthnasol) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, ar ran dau berson nad ydych yn ŵr/gwraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn dad-cu/mam-gu, yn frawd/chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr/wyres iddynt? [R] 5 Person sy’n gwneud cais fel etholwr y mae cofnod ganddo ar y rhestr pleidleiswyr post (za) Beth yw’ch enw?
(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?
(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post?
(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post?
6 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y mae cofnod ganddo ar y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post (za) Beth yw’ch enw?
(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?
(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?
(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?
”