{
  "url": "https://openlegislation.uk/draft-windsor-framework-enforcement-etc-regulations-2023/regulation-6",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/draft-windsor-framework-enforcement-etc-regulations-2023/regulation-6.json",
  "legislation": "ukdsi/2023/9780348251210",
  "legislation_title": "The Windsor Framework (Enforcement etc.) Regulations 2023",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/draft-windsor-framework-enforcement-etc-regulations-2023",
  "path": "regulation/6",
  "kind": "regulation",
  "number": "6",
  "heading": "The Official Controls (Plant Health and Genetically Modified Organisms) (Wales) Regulations 2020 (Welsh language text)",
  "text": "(1) The Welsh language text of the Official Controls (Plant Health and Genetically Modified Organisms) (Wales) Regulations 2020 (Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 is amended as follows.\n(2) In regulation 2 (Dehongli: cyffredinol) (Interpretation: general), after the definition of “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) insert—\n“mae i “label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “Northern Ireland plant health label” yn rheoliad 2 o Reoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023”.\n(3) In regulation 28 (Pwerau mynediad) (Powers of entry), in paragraph (1)—\n(a) in sub-paragraph (a)—\n(i) omit “neu” at the end of paragraph (iii);\n(ii) insert “neu” at the end of paragraph (iv);\n(iii) after paragraph (iv) insert—\n“(v) bod gweithredwr awdurdodedig, gweithredwr proffesiynol neu weithredwr cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023”;\n(b) in sub-paragraph (b), after “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, insert “, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023”;\n(c) in sub-paragraph (c), after “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, insert “, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023”.\n(4) In regulation 30 (Hysbysiadau gwybodaeth) (Information notices), in paragraph (3), after “pasbort planhigion,”, insert “label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon,”.\n(5) In regulation 35 (Datgelu gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill) (Disclosure of information to other competent authorities), in paragraph (1), after “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, insert “, Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023”.\n(6) In regulation 38 (Cyffredinol) (General), in paragraph (1), after sub-paragraph (f) insert—\n“(fa) darpariaeth yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023 a bennir yn Atodlen 3A”.\n(7) In regulation 41 (Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol) (Provision of false or misleading information), after “pasbort planhigion” insert “, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon”.\n(8) In regulation 42 (Defnyddio pasbortau planhigion neu dystysgrifau yn amhriodol) (Improper use of plant passports or certificates)—\n(a) in the heading, after “pasbortau planhigion” insert “, labeli iechyd planhigion Gogledd Iwerddon”;\n(b) in paragraph (1), after each place “pasbort planhigion” occurs, insert “, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon”.\n(9) After Schedule 3 insert—\n“ATODLEN 3A\nTroseddau: troseddau perthnasol yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023\nRheoliad 38\nY ddarpariaeth yn Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023\nY pwnc\nRheoliad 9(3)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig ynglŷn a dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.\nRheoliad 11(1) a (2)\nYn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig:\n(a) nodi a monitro’r pwyntiau yn eu proses gynhyrchu a’r pwyntiau sy’n ymwneud â symud y nwyddau perthnasol sy’n allweddol o ran cydymffurfio â rheoliad 12 a rheoliad 13 yn y rheoliadau hynny, pan fônt yn bwriadu dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon; a\n(b) cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.\nRheoliad 11(3)\nYn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’w personél sy’n ymwneud ag archwiliadau.\nRheoliad 12\nYn gwahardd dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni, ond dim ond pan ddyroddir y label gan weithredwr awdurdodedig y mae torri rheoliad 12 yn drosedd.\nRheoliad 14(1)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig mewn perthynas â gosod label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.\nRheoliad 14(2)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol mewn perthynas â gosod label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.\nRheoliad 18(1) i 18(4)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr proffesiynol mewn perthynas â chadw cofnodion.\nRheoliad 18(5)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol i gyfleu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys, ar gais.\nRheoliad 19(4)\nYn gosod amodau mewn perthynas â dyroddi label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon amnewid, ond dim ond pan ddyroddir y label gan weithredwr awdurdodedig y mae torri rheoliad 19(4) yn drosedd.\nRheoliad 19(6) a (7)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr awdurdodedig mewn perthynas â chadw label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon a amnewidiwyd neu ei gynnwys.\nRheoliad 20(2), (3), (5) a (7)\nYn gosod gofynion ar weithredwyr proffesiynol mewn perthynas ag annilysu a thynnu label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon.\nRheoliad 21\nYn gwahardd anfon llwythi â label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon i Ogledd Iwerddon gan bersonau heblaw gweithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr cofrestredig, a chan gweithredwyr awdurdodedig a gweithredwyr cofrestredig oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.\n”.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "S.I. 2020/206 (W. 48), amended by S.I. 2020/1628 (W. 342), 2021/239 (W. 62); there are other amending instruments but none are relevant."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2023/9780348251210/regulation/6",
    "retrieved_at": "2026-10-30T14:42:57.190779+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}