{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1.json",
  "legislation": "uksi/1994/1989",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994",
  "path": "schedule/1",
  "kind": "schedule",
  "number": "1",
  "heading": "FORMS OF WORDS IN WELSH FOR REQUIREMENTS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993",
  "text": "(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993;\n(ii) ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;\n(iii) ystyr “clustogfa” yw llain o dir, heblaw tir sy'n dir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd, porfeydd garw lled–naturiol neu dir gwlyb, sy'n cyffinio â brigiad craig ac sydd yn 2 fetr o leiaf o led;\n(iv) ystyr “tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u neu ei ail–hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;\n(v) ystyr “tir glas amgaee dig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u, ei draenio neu ei ail–hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;\n(vi) ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;\n(vii) ystyr “gweirglodd” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o laswelltoedd, hesg a blodau gwyllt cynhenid;\n(viii) ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris,Erica tetralixneu Erica cinerea;\n(ix) ystyr “uned da byw” yw–\n(a) 1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed, neu\n(b) 1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy flwydd oed yn gynwysedig, neu\n(c) 6.66 o ddefaid;\n(x) ystyr “brigiad craig” yw darn o dir lle mae haen o'r graig isorweddol yn agored uwchben wyneb y ddaear ac yn gorchuddio arwynebedd uwchben y ddaear nad yw'n llai na naw metr sgwâr;\n(xi) ystyr “prysg” yw llystyfiant sy'n cynnwys yn bennaf brysgwydd cynhenid lleol sydd fel arfer yn llai na phum metr o uchder;\n(xii) ystyr “tir pori garw lled–naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea), cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralixneuErica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);\n(xiii) ystyr “adeiladau fferm traddodiadol” yw adeiladau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ar hyn o bryd, ond heb gynnwys llety byw, a'r rheiny wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau sy'n draddodiadol i'r ardal;\n(xiv) ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen–gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled–naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "O.S. 1993/1211."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1989/schedule/1",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:28:36.671352+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}