{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-2.json",
  "legislation": "uksi/1994/1989",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Radnor) (Welsh Language Provisions) Order 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-radnor-welsh-language-provisions-order-1994",
  "path": "schedule/1/paragraph/2",
  "kind": "paragraph",
  "number": "2",
  "heading": "O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir glas amgaee dig wedi'i wella'n rhannol, tir glas amgaee dig heb ei wella, gweirglodd, porfeydd garw lled–naturiol, tir gwlyb neu glustogfa–",
  "text": "(1) rhaid i'r ffermwr beidio ag aredig, gwastata u, ail–hadu, trin neu, ac eithrio yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, defnyddio og gadwyni neu roler;\n(2) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, beidio â defynddio og gadwyni neu roler rhwng 31 Mawrth a 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;\n(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;\n(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd;\n(5) yn ddarostyngedig i is–baragraff (6) isod, rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig neu organig;\n(6) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol neu weirglodd, ac yn ddarostyngedig i is–baragraff (4) paragraff 1 yr Atodlen hon, beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell o wrtaith buarth am bob hectar bob blwyddyn;\n(7) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid;\n(8) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;\n(9) rhaid i'r ffermwr reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy gyfrwng mecanegol neu trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig;\n(10) rhaid i'r ffermwr losgi grug, glaswellt a phrysg yn unol â rhaglen y cytunir arni ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig;\n(11) rhaid i'r ffermwr beidio â chynyddu'r lefelau stocio presennol o wartheg a defaid heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;\n(12) rhaid i'r ffermwr beidio â phori'r tir gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio sy'n achosi gor–bori neu sathru, ond–\n(a) o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ac nad ydynt yn cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.36 uned da byw yr hectar; a\n(b) o ran porfeydd garw lled–naturiol sydd heb eu hamga u ond sy'n cynnwys grug neu dir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol sy'n cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.22 uned da byw yr hectar;\n(13) rhaid i'r ffermwr gyfyngu ar roi bwyd ategol i dda byw i fannau y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1989/schedule/1/paragraph/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:28:36.671352+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}