{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990/schedule-1/paragraph-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990/schedule-1/paragraph-2.json",
  "legislation": "uksi/1990/1693",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990",
  "path": "schedule/1/paragraph/2",
  "kind": "paragraph",
  "number": "2",
  "heading": null,
  "text": "O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac yn goetir llydanddail (ii)—\n(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw coetir llydanddail (ii) presennol;\n(2) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw stoc allan o goetir llydanddail (ii);\n(3) rhaid i'r ffermwr (iii) o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (ii) oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;\n(4) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol.Diffiniadau\n(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Estyniad) 1987, fel y bo'n briodol;\n(ii) ystyr “coetir llydanddail” yw tir a defnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;\n(iii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Es-tyniad) 1987, fel y bo'n briodol, ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;\n(iv) ystyr “tir pori lled-naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu(Agrostis), peisgwellt(Festuca), rhedyn(Pteridium aquilinum), gwair porffor y gweunydd(Molinia caerulea), gwair mat(Nardus stricta), grug(Calluna vulgaris neu Erica), llus(Vaccinium), plu'r gweunydd(Eriophorum) neu wair ceirw(Trichophorum);\n(v) ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;\n(vi) ystyr “uned da byw” yw—\n(a) 1 fuwch, neu\n(b) 1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu\n(c) 1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu\n(d) 2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu\n(e) 6.66 o ddefaid.\nYn y diffiniad hwn ystyr “buwch” yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "1986 p.49."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f2",
      "text": "O.S. 1986/2257, diwygiwyd gan O.S. 1988/173."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f3",
      "text": "O.S. 1987/2026, diwygiwyd gan O.S. 1988/173."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1990/1693/schedule/1/paragraph/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T15:08:37.157702+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}