# The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990, Paragraph 2


O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac yn goetir llydanddail (ii)—
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw coetir llydanddail (ii) presennol;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw stoc allan o goetir llydanddail (ii);
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (ii) oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol.Diffiniadau
(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Estyniad) 1987, fel y bo'n briodol;
(ii) ystyr “coetir llydanddail” yw tir a defnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;
(iii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria—Es-tyniad) 1987, fel y bo'n briodol, ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iv) ystyr “tir pori lled-naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu(Agrostis), peisgwellt(Festuca), rhedyn(Pteridium aquilinum), gwair porffor y gweunydd(Molinia caerulea), gwair mat(Nardus stricta), grug(Calluna vulgaris neu Erica), llus(Vaccinium), plu'r gweunydd(Eriophorum) neu wair ceirw(Trichophorum);
(v) ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;
(vi) ystyr “uned da byw” yw—
(a) 1 fuwch, neu
(b) 1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu
(c) 1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu
(d) 2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu
(e) 6.66 o ddefaid.
Yn y diffiniad hwn ystyr “buwch” yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1990/1693/schedule/1/paragraph/2 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990/schedule-1/paragraph-2
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

