{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990/schedule-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990/schedule-2.json",
  "legislation": "uksi/1990/1693",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-wales-welsh-language-provisions-order-1990",
  "path": "schedule/2",
  "kind": "schedule",
  "number": "2",
  "heading": "WELSH VERSIONS OF REQUIREMENTS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (LLEYN PENINSULA) DESIGNATION ORDER 1987",
  "text": "O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i)—\n1. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw patrymau presennol y caeau;\n2. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â dileu unrhyw wrych, mur neu glawdd (iii) presennol;\n3. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â chodi unrhyw ffens newydd;\n4. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir garw (iv) a gweirgloddiau gwair (v);\n5. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw'r gwrychoedd, y muriau a'r cloddiau (iii) dal stoc presennol mewn cyflwr cymwys i ddal stoc gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol;\n6. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â symud unrhyw byst llidiardau cerrig presennol;\n7. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;\n8. rhaid i'r ffermwr (ii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;\n9. rhaid i'r ffermwr (ii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988. Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;\n10. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw pob coetir lydanddail (vi) a phrysgwydd;\n11. rhaid i'r ffermwr (ii), cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;\n12. rhaid i'r ffermwr (ii), o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (vi) a phrysgwydd oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;\n13. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â thaenu unrhyw ffwngleiddiad, pryfleiddiad, llysleiddiad, calch neu wrtaith o fewn llain o dir sydd o leiaf ddeg metr o led wrth ymyl cors, gwaun, llyn, pwll dw*r neu nant.Diffiniadau\n(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987;\n(ii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;\n(iii) ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;\n(iv) ystyr “tir garw” yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;\n(v) ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;\n(vi) ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "O.S. 1988/1813, diwygiwyd gan O.S. 1989/603."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f2",
      "text": "O.S. 1987/2027, diwygiwyd gan O.S. 1988/173."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1990/1693/schedule/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T15:08:37.157702+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}