{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1.json",
  "legislation": "uksi/1994/1990",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994",
  "path": "schedule/1",
  "kind": "schedule",
  "number": "1",
  "heading": "FORMS OF WORDS IN WELSH FOR REQUIREMENTS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (YNYS MÔN) DESIGNATION ORDER 1993",
  "text": "(i) ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig(Ynys Môn) 1993;\n(ii) ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;\n(iii) ystyr “clogfaen” yw craig sy'n sefyll yn rhannol neu'n gyfan gwbl uwchben wyneb y tir i uchder o 0.1 metr o leiaf a honno'n gorchuddio isafswm arwynebedd uwchlaw'r ddaear o 0.5 metr sgwâr o leiaf;\n(iv) ystyr “clustogfa” yw llain o dir, heblaw tir sy'n llain arfordirol, tir glas amgaeëdig sydd heb ei wella, tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, porfeydd garw lled-naturiol neu dir gwlyb, sy'n cyffinio â brigiad craig ac sydd yn 2 fetr o leiaf o led;\n(v) ystyr “llain arfordirol” yw tir ar frig clogwyni neu lethrau arfordirol sy'n rhostir, lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf cor-brysgwydd, gan gynnwys ericoidau a rhywogaethau arforol, neu dir glas sy'n cynnwys rhywogaethau arforol o laswellt;\n(vi) ystyr “tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaeëdig sydd heb ei aredig, ei wastatáu neu ei ail-hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;\n(vii) ystyr “tir glas amgaeëdig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaeëdig sydd heb ei aredig, ei wastatáu, ei draenio neu ei ail-hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;\n(viii) ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Ynys Môn) 1993 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;\n(ix) ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris, Erica tetralix neu Erica cinerea;\n(x) ystyr “uned da byw” yw—\n(a) 1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed; neu\n(b) 1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy flwydd oed yn gynwysedig, neu\n(c) 6.66 o ddefaid;\n(xi) ystyr “brigiad craig” yw darn o dir lle mae haen o'r graig isorweddol yn agored uwchben wyneb y ddaear ac yn gorchuddio arwynebedd uwchben y ddaear nad yw'n llai na naw metr sgwâr;\n(xii) ystyr “prysg” yw llystyfiant sy'n cynnwys yn bennaf brysgwydd cynhenid lleol sydd fel arfer yn llai na phum metr o uchder;\n(xiii) ystyr “tir pori garw lled-naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu (Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea) cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralix neu Erica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);\n(xiv) ystyr “adeiladaufferm traddodiadol” yw adeiladau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol ar hyn o bryd, ond heb gynnwys llety byw, a'r rheiny wedi'u hadeiladu o ddeunyddiau sy'n draddodiadol i'r ardal;\n(xv) ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen-gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaeëdig sydd heb ei wella, tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled-naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "O.S. 1993/1210, diwygiwyd gan O.S. 1993/2422."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/1",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:28:35.912264+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}