# The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994, Paragraph 1


O ran pob tit sy'n destun cytundeb—;
(1) rhaid i'r ffermwr gadw perthi, muriau, ffensiau a chloddiau presennol gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol;
(2) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw berthi, muriau, ffensiau (heblaw ffensiau gwifren), cloddiau neu goed perthi presennol;
(3) rhaid i'r ffermwr beidio â chodi perthi, muriau, ffensiau neu gloddiau newydd heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;
(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ar unrhyw ffin cae neu ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath—
(a) calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd, neu
(b) gwrtaith anorganig neu organig, ffwngleiddiaid neu blaleiddiaid;
(5) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ar unrhyw ffin cae nac ar lain o dir o leiaf dau fetr o led sy'n gyfagos i ffin o'r fath, ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;
(6) rhaid i'r ffermwr gadw a gofalu am bob llyn, pwll a nant bresennol;
(7) rhaid i'r ffermwr, wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol;
(8) rhaid i'r ffermwr beidio â dileu unrhyw brysg neu goed llydanddail heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;
(9) rhaid i'r ffermwr, cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, sicrhau cyngor ysgrifenedig oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny;
(10) rhaid i'r ffermwr beidio â symud unrhyw glogfeini na dileu unrhyw greigiau o frigiadau craig;
(11) rhaid i'r ffermwr gadw unrhyw adeiladau fferm traddodiadol gwrth-dywydd y mae'n gyfrifol amdanynt mewn cyflwr gwrth-dywydd gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol neu ddeunyddiau eraill y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo eu defnyddio;
(12) rhaid i'r ffermwr gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol neu waith adeiladu arall nad oes angen rhoi gwybod amdano ymlaen llaw neu ei benderfynu gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988, neu ganiatâd cynllunio;
(13) rhaid i'r ffermwr reoli plâu mewn modd cyfreithiol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/1/paragraph/1n1 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-1n1
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

