{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-2.json",
  "legislation": "uksi/1994/1990",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994",
  "path": "schedule/1/paragraph/2",
  "kind": "paragraph",
  "number": "2",
  "heading": null,
  "text": "O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n llain arfordirol, tir glas amgaeëdig wedi'i wella'n rhannol, tir glas amgaeëdig heb ei wella, porfeydd garw lled-naturiol, tir gwlyb neu glustogfa—\n(1) rhaid i'r ffermwr beidio ag aredig, gwastatáu, ail-hadu, trin neu, ac eithrio yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, defnyddio og gadwyni neu roler;\n(2) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, beidio â defnyddio og gadwyni neu roler rhwng 31 Mawrth a 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;\n(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;\n(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd;\n(5) yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig neu organig;\n(6) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) paragraff 1 yr Atodlen hon, beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell o wrtaith buarth am bob hectar bob blwyddyn;\n(7) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid;\n(8) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;\n(9) rhaid i'r ffermwr reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy gyfrwng mecanegol neu trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig;\n(10) rhaid i'r ffermwr losgi grug, glaswellt a phrysg yn unol â rhaglen y cytunir arni ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig;\n(11) rhaid i'r ffermwr beidio â chynyddu'r lefelau stocio presennol o wartheg a defaid heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;\n(12) rhaid i'r ffermwr beidio â phori'r tir gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio sy'n achosi gor-bori neu sathru, ond—\n(a) o ran porfeydd garw lled-naturiol sydd heb eu hamgáu ac nad ydynt yn cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.45 uned da byw yr hectar; a\n(b) o ran porfeydd garw lled-naturiol sydd heb eu hamgáu ond sy'n cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.22 uned da byw yr hectar;\n(13) rhaid i'r ffermwr gyfyngu ar roi bwyd ategol i dda byw i fannau y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/1/paragraph/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:28:35.912264+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}