# The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994, Paragraph 2


O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n llain arfordirol, tir glas amgaeëdig wedi'i wella'n rhannol, tir glas amgaeëdig heb ei wella, porfeydd garw lled-naturiol, tir gwlyb neu glustogfa—
(1) rhaid i'r ffermwr beidio ag aredig, gwastatáu, ail-hadu, trin neu, ac eithrio yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, defnyddio og gadwyni neu roler;
(2) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, beidio â defnyddio og gadwyni neu roler rhwng 31 Mawrth a 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(4) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu calch neu unrhyw sylwedd arall sydd wedi'i gynllunio i leihau asidedd y pridd;
(5) yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig neu organig;
(6) rhaid i'r ffermwr, yn achos tir glas amgaeëdig sydd wedi'i wella'n rhannol, ac yn ddarostyngedig i is-baragraff (4) paragraff 1 yr Atodlen hon, beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell o wrtaith buarth am bob hectar bob blwyddyn;
(7) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu ffwngleiddiaid neu bryfleiddiaid;
(8) rhaid i'r ffermwr beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn (Pteridium aquilinum), danadl (Urtica dioica), marchysgall (Cirsium vulgare), ysgall yr âr (Cirsium arvense), dail tafol cyrliog (Rumex crispus), dail tafol llydan (Rumex obtusifolius), llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea) a chanclwm Siapaneaidd (Reynoutria Japonica) ac yna drwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn (Pteridium aquilinum) drwy chwistrellu cyffredinol;
(9) rhaid i'r ffermwr reoli rhedyn (Pteridium aquilinum) trwy gyfrwng mecanegol neu trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig;
(10) rhaid i'r ffermwr losgi grug, glaswellt a phrysg yn unol â rhaglen y cytunir arni ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn unig;
(11) rhaid i'r ffermwr beidio â chynyddu'r lefelau stocio presennol o wartheg a defaid heb gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen llaw;
(12) rhaid i'r ffermwr beidio â phori'r tir gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio sy'n achosi gor-bori neu sathru, ond—
(a) o ran porfeydd garw lled-naturiol sydd heb eu hamgáu ac nad ydynt yn cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.45 uned da byw yr hectar; a
(b) o ran porfeydd garw lled-naturiol sydd heb eu hamgáu ond sy'n cynnwys grug, rhaid beth bynnag iddo beidio â phori gyda gwartheg neu ddefaid yn ôl graddfa stocio flynyddol gyfartalog sy'n fwy na 0.22 uned da byw yr hectar;
(13) rhaid i'r ffermwr gyfyngu ar roi bwyd ategol i dda byw i fannau y cytunir arnynt ymlaen llaw gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/1/paragraph/2 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-1/paragraph-2
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

