# The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994, Paragraph 1


O ran unrhyw dir sy'n destan cytundeb ac sy'n dir gwlyb:—
(1) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar ôl dechrau'r cytundeb, cytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol—
(a) ar raglen reoli ar gyfer y tir gwlyb, ac
(b) ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;
(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar ôl dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli ar gyfer y tir gwlyb y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol;
(3) rhaid i'r ffermwr beidio â gwneud unrhyw waith i gynnal systemau traenio presennol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/2/paragraph/1n1 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-2/paragraph-1n1
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

