{
  "url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-2/paragraph-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-2/paragraph-2.json",
  "legislation": "uksi/1994/1990",
  "legislation_title": "The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994",
  "path": "schedule/2/paragraph/2",
  "kind": "paragraph",
  "number": "2",
  "heading": null,
  "text": "O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail—\n(1) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan;\n(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar ôl dechrau'r cytundeb, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli'r coetir llydanddail oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;\n(3) rhaid i'r ffermwr, cyn pen naw mis ar ôl dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol—\n(a) ar raglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail, a\n(b) ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;\n(4) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar ôl dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/2/paragraph/2",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:28:35.912264+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}