# The Environmentally Sensitive Areas Designation (Ynys Môn) (Welsh Language Provisions) Order 1994, Paragraph 2


O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail—
(1) rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan;
(2) rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar ôl dechrau'r cytundeb, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli'r coetir llydanddail oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
(3) rhaid i'r ffermwr, cyn pen naw mis ar ôl dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol—
(a) ar raglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail, a
(b) ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;
(4) rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar ôl dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/1990/schedule/2/paragraph/2 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/environmentally-sensitive-areas-designation-ynys-mon-welsh-language-provisions-order-1994/schedule-2/paragraph-2
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

