{
  "url": "https://openlegislation.uk/european-qualifications-health-and-social-care-professions-regulations-2016/regulation-137",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/european-qualifications-health-and-social-care-professions-regulations-2016/regulation-137.json",
  "legislation": "uksi/2016/1030",
  "legislation_title": "The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/european-qualifications-health-and-social-care-professions-regulations-2016",
  "path": "regulation/137",
  "kind": "regulation",
  "number": "137",
  "heading": "Insertion of section 90A (Welsh text)",
  "text": "In the Welsh language text, after section 90, insert—\n“Rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol\n90A. (1) Mae’r adran hon yn gymwys i berson esempt (“X”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig.\n(2) Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan X fudd rheoliad 12 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw X wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X).\n(3) Mae hawlogaeth gan X i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr, a rhaid i’r cofrestrydd roi effaith i’r hawlogaeth.\n(4) Os oes gan X hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae X i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.\n(5) Mae hawlogaeth X o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw X yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad 24 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.\n(6) Os yw X wedi ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu X oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth X o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).\n(7) Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 neu Ran 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr.”.",
  "extent": "E+W+S+N.I.",
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "I",
      "label": "I1",
      "text": "Reg. 137 in force at 18.11.2016, see reg. 1"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/2016/1030/regulation/137",
    "retrieved_at": "2026-10-28T23:18:51.194789+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}