# The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016, Regulation 137: Insertion of section 90A (Welsh text)

Extent: E+W+S+N.I.

In the Welsh language text, after section 90, insert—
“Rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol
90A. (1) Mae’r adran hon yn gymwys i berson esempt (“X”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
(2) Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan X fudd rheoliad 12 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw X wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X).
(3) Mae hawlogaeth gan X i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr, a rhaid i’r cofrestrydd roi effaith i’r hawlogaeth.
(4) Os oes gan X hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae X i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.
(5) Mae hawlogaeth X o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw X yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad 24 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.
(6) Os yw X wedi ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu X oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth X o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).
(7) Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 neu Ran 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr.”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/2016/1030/regulation/137 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/european-qualifications-health-and-social-care-professions-regulations-2016/regulation-137
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

