{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-and-welsh-form-and-particulars-amendment-wales-regulations-1999/schedule-2/paragraph-4",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-and-welsh-form-and-particulars-amendment-wales-regulations-1999/schedule-2/paragraph-4.json",
  "legislation": "wsi/1999/3470",
  "legislation_title": "The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) and (Welsh Form and Particulars) (Amendment) (Wales) Regulations 1999",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-and-welsh-form-and-particulars-amendment-wales-regulations-1999",
  "path": "schedule/2/paragraph/4",
  "kind": "paragraph",
  "number": "4",
  "heading": null,
  "text": "For question 3.37, substitute —\n“3.37 Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 nad yw'n anabl ac sydd naill ai o dan 15 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 15 oed?\nNodiadau 93 a 93A\nYdw\n□\nNac ydw\n□\n3.37A Ydych chi'n talu, neu ydych chi wedi talu yn ystod y 12 mis diwethaf, am ofal unrhyw blentyn a enwir yng nghwestiwn 3.15 sy'n anabl ac sydd naill ai o dan 16 oed neu sydd (neu oedd) heb gyrraedd y dydd Llun cyntaf ym Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn 16 oed?\nNodiadau 93 a 93A\nYdw\n□\nNac ydw\n□\nOs ydych wedi ateb “Ydw” naill ai i gwestiwn 3.37 neu 3.37A, ewch at gwestiwn 3.38.\nOs ydych wedi ateb “Nac ydw” i'r ddau gwestiwn 3.37 a 3.37A, ewch at y Datganiad ar ddiwedd y Rhan hon.”",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/1999/3470/schedule/2/paragraph/4",
    "retrieved_at": "2026-10-29T00:19:36.468674+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}