OpenLegislation

Paragraph 24

Original text. Later amendments are not shown.

After note 90, insert–

“90A

Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau cyfalaf a gawsoch am gymryd rhan yn y canlynol–

  • Dewis Cyflogaeth y Fargen Newydd;

  • Dewis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd;

  • Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd;

  • Dewis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd;

  • cwrs cysylltiedig â chyflogaeth nad yw'n para'n hwy na 12 mis yn olynol ac sy'n cyrraedd y safon sy'n ofynnol o dan reoliad 17A o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996; oni fydd y paragraff canlynol yn gymwys.

Lle'r ydych yn cael neu wedi cael unrhyw gymorth o dan Ddewis hunan-gyflogaeth y Fargen Newydd, bydd angen i chi grybwyll unrhyw swm cyfalaf yr ydych wedi'i gaffael o fewn y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sefydlu neu gyflawni gweithgaredd masnachol y ceir neu y cafwyd cymorth mewn cysylltiad ag ef. Lle'r ydych yn mynychu cwrs sy'n ymwneud â'ch gwaith, dylech grybwyll hefyd unrhyw daliad a gafwyd mewn cysylltiad â'ch anghenion arbennig o fewn y flwyddyn ddiwethaf.”.