{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-welsh-form-and-particulars-regulations-1998/note",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-welsh-form-and-particulars-regulations-1998/note.json",
  "legislation": "uksi/1998/1113",
  "legislation_title": "The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renewal-grants-prescribed-form-and-particulars-welsh-form-and-particulars-regulations-1998",
  "path": "note",
  "kind": "note",
  "number": null,
  "heading": "Explanatory note",
  "text": "(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)\nDrwy gyfrwng rheoliad 2, mae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiwn Gymraeg o ffurflen ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 y mae adran 30 o'r Ddeddf honno (prawf moddion yn achos cais gan berchen-feddiannydd neu denant) yn gymwys iddynt (ac eithrio ceisiadau landlordiaid am grant cyfleusterau i'r anabl). Pennwyd y fersiwn Saesneg gyfatebiad o'r ffurflen gan Reoliadau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Penodedig) 1996 (O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119 ac O.S. 1997/978). Mae Rheoliad 3 hefyd yn pennu'r manylion sydd i'w cynnwys yn y cyfryw geisiadau.\nMae'r Rheoliadau'n adlewyrchu rheolau profion moddion ar gyfer perchen feddianwyr a thenantiaid a gynhwysir yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890 a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119 ac O.S. 1997/977). O ran ei chynnwys, mae'r ffurflen a bennir yn Atodlen 1 yn gydgyfnerthiad ar y cyfan o Ffurflenni 1, 2 a 3 a bennwyd gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) 1994 (O.S. 1996/648) fel y'u diwygiwyd. O ran ei golwg, mae'r ffurflen yn wahanol i'r rhai a bennwyd o'r blaen, gan fod nifer o'r cwestiynau a'r nodiadau wedi'u hepgor neu wedi'u huno. Hefyd mae yna gwestiynau a nodiadau newydd sy'n adlewyrchu darpariaethau sy'n benodol i Ddeddf 1996 a newidiadau yn y rheolau ar fudd-daliadau tai (gan fod y prawf moddion ar gyfer ceisiadau perchen-feddianwyr a thenantiaid am grantiau adnewyddu tai yn seiliedig yn agos ar y prawf moddion ar gyfer budd-dâl tai).\nDrwy gyfrwng rheoliad 4, nid yw'r Rheoliadau yn gymwys i geisiadau perchen feddianwyr a thenantiaid am grant a wnaed cyn i'r Rheoliadau ddod i rym.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1998/1113/note",
    "retrieved_at": "2026-10-29T11:31:48.931066+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}