{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995/note",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995/note.json",
  "legislation": "uksi/1995/857",
  "legislation_title": "The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1995",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995",
  "path": "note",
  "kind": "note",
  "number": null,
  "heading": "Explanatory note",
  "text": "(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)\nMae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiynau Cymraeg o'r diwygiadau a bennwyd gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) (Diwygio) 1995 (O.S 1995/839) a thrwy hynny'n diwygio'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1994 (O.S. 1994/693) fel y'i diwygiwyd. Mae'r mwyafrif o'r diwygiadau yn codi yn sgïal diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Lleihau Grant) (Diwygio) 1995 (O.S 1995/838) i'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Lleihau Grant) 1994 (O.S. 1994/648). Ceir mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.\nMae Atodlen 1 y Rheoliadau'n diwgio Ffurflen 1 cais am grant adnewyddu; Atodlen 2 yn diwygio Ffurflen 2 cais am gyfleusterau i'r anabl; Atodlen 3 yn diwygio Ffurflen 3 cais am grant rhannau cyffredin; ac Atodlen 4 yn diwygio Ffurflen 4 cais am grant tŷ mewn aml-ddaliadaeth.\nMae Rheoliad 3(1) yn atal y Rheoliadau rhag bod yn gymwys i geisiadau a wneir cyn 17 Ebrill 1995 (ac eithrio fel y'i pennir yn rheoliad 3(2)).",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1995/857/note",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:12:21.475816+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}