{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995/schedule-2/paragraph-24",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995/schedule-2/paragraph-24.json",
  "legislation": "uksi/1995/857",
  "legislation_title": "The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1995",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1995",
  "path": "schedule/2/paragraph/24",
  "kind": "paragraph",
  "number": "24",
  "heading": null,
  "text": "After note 52, insert—\n“52A Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os—\n(i) ydych chi, neu'ch partner, o dan 60 oed a bod un neu fwy o'r amodau canlynol wedi'u bodloni:\n(a) eich bod chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symud-o-gwmpas, budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol, dim ond lle y'i telir mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);\n(b) eich bod chi, neu'ch partner, wedi peidio â chael budd-dâl analluogrwydd tymor-hir (neu, os yw paragraff (ii) yn gymwys, eich bod chi neu'ch partner wedi peidio â chael pensiwn analluedd cyn 13 Ebrill 1995) oherwydd talu pensiwn ymddeol ac, yn achos eich partner, ei fod ef/ei bod hi yn dal yn aelod o'ch teulu;\n(c) eich bod chi, neu'ch partner, wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond bod taliadau budd-dâl wedi'u hatal o dan adran 113(2) Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;\n(d) y darparwyd ar eich cyfer chi, neu'ch partner, gerbyd anabl neu gerbyd arall neu grant ar gyfer cerbyd o'r fath, o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloger neu'r Alban;\n(e) eich bod chi, neu'ch partner, wedi'ch cofrestru'n ddall neu wedi peidio â bod wedi'ch cofrestru felly ddim mwy nag 28 wythnos yn ôl;\n(f) (i) eich bod yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; ac\neich bod wedi methu â gweithio, neu'ch bod wedi cael eich trin fel petaech yn methu â gweithio am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn ddi-dor neu, os ydych yn derfynol sâl, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn ddi-dor (gan gynnwys unrhyw gyfnod o analluogrwydd yn dod cyn 13 Ebrill 1995 ac yn bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd, a phan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu\n(ii) yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod di-dor o ddim llai nag 28 wythnos, eich bod chi neu'ch partner,\nwedi darparu tystiolaeth o analluogrwydd yn unol â rheoliad 2 y Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym i ategu cais am fudd-dâl salwch, pensiwn analluedd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym, cyn belled ag na wnaeth swyddog dyfarnu benderfynu nad oeddech chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner yn methu â gweithio, neu\nyn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;\nac o 13 Ebrill 1995 ymlaen eich bod chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner, wedi parhau i fethu â gweithio yn unol â Rhan XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn ddi-dor (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd);\n(ii) eich bod chi, neu'ch partner, yn llai na 80 oed ond ddim yn llai na 60 oed a bod un neu fwy o amodau (a) i (f) ym mharagraff (i) wedi'u bodloni (ond yn achos amod (f)(i), pan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, ni ellir anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth nac unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu\n(iii) byddai paragraff (i) neu (ii) yn gymwys i'ch partner, oni bai bod eich partner yn cael ei drin fel petai'n gallu gweithio drwy ddyfarniad o dan adran 171E Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu\n(iv) y buoch, neu'ch bod wedi'ch trin fel petaech yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o o leiaf 196 diwrnod (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd); neu\n(v) bod un neu fwy o'r canlynol (gan gynnwys y rhai sy'n cyfateb yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy ar eich cyfer chi neu'ch partner:\n(a) budd-dâl analluogrwydd tymor-hir;\n(b) budd-dâl analluogrwydd tymor-byr ar y cyfradd uchaf;\n(c) lwfans gweini;\n(d) lwfans anabledd difrifol;\n(e) lwfans byw i'r anabl;\n(f) cynnydd mewn pensiwn anabledd am weini cyson;\n(g) cynnydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol am weini, neu weini cyson, neu sy'n gyfatebol i lwfans byw i'r anabl; neu\n(vi) bod un o (v)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluogrwydd chi neu'ch partner ond wedi peidio â bod yn daladwy oherwydd eich bod chi neu ef/hi yn cael triniaeth feddygol am ddim neu driniaeth arall fel claf mewnol yn un o ysbytai'r NHS neu sefydliad cyffelyb neu o dan drefniadau a wnaed gan un o gyrff yr NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (dalier sylw: nid yw person sy'n bwrw tymor yng ngharchar neu o dan gadwad mewn sefydliad i droseddwyr ifanc yn cael ei gyfrif fel “claf mewnol”); neu\n(vii) darperir cerbyd anabl neu gerbyd arall i chi neu'ch partner neu eich bod chi neu'ch partner yn cael lwfans am gerbyd o'r fath (gan gynnwys lle y darperir y cerbyd neu lwfans o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon).”.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1995/857/schedule/2/paragraph/24",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:12:21.475816+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}