{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-16",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-16.json",
  "legislation": "uksi/1996/1378",
  "legislation_title": "The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1996",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996",
  "path": "schedule/2/paragraph/16",
  "kind": "paragraph",
  "number": "16",
  "heading": null,
  "text": "For notes 44 to 44C, substitute—\n“44 Rhowch y swm net os caiff eich pensiwn neu eich blwydd-dâl ymddeol ei drethu.\n44A Mae hyn yn golygu pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth Sosialwyr Cenedlaethol o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu gyfraith Gweriniaeth Awstria.\n44B Ystyr “pensiwn personol” yw pensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn personol o fewn ystyr adran 191 Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 gan gynnwys, yn achos enillwr hunan-gyflogedig, cynllun a gymeradwyir gan Fwrdd Cyllid y Wlad o dan Bennod IV Rhan XIV Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.\n44C Telir pensiynau atodol i weddwon aelodau’r lluoedd arfog, er enghraifft: (i) lle mae’r weddw yn 40 oed neu drosodd; (ii) lle na all ei chynnal ei hun; neu (iii) mewn perthynas â rhai o blant ei diweddar ŵr.\n44D Crybwyllwch unrhyw bensiwn cyfatebol a dderbynnir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad oherwydd diffyg talu pensiwn o’r fath, beth bynnag y bo’i darddiad.\n44E Mae hyn yn golygu pensiwn sy’n daladwy i weddw o dan Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth (Anabledd a Marwolaeth) Lluoedd Llyngesol, Milwrol ac Awyr Etc. 1983 i’r graddau y bo’r Gorchymyn hwnnw wedi ei wneud o dan Ddeddf Tâl a Phensiynau Llyngesol a Morol 1865 neu Ddeddf Pensiynau a Thâl Iwmoniaeth 1884, neu wedi ei wneud yn unig o dan adran 12(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Amrywiol) 1977 ac unrhyw bwer sydd gan Ei Mawrhydi i wneud darpariaeth pensiwn ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu hanablu neu wedi marw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron.\nCrybwyllwch unrhyw bensiwn cyfatebol a dderbynnir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad oherwydd diffyg talu pensiwn o’r fath, beth bynnag y bo’i darddiad.\n44F Gwneir y taliadau hyn i weddwon personau a laddwyd cyn 31 Mawrth 1973 ar wasanaeth cyfatebol i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron.\n44G O dan y Cynllun hwn, telir pensiynau a lwfansau i sifilwyr a anafwyd neu a laddwyd yn Rhyfel 1939–45 neu mewn perthynas â hwy.”.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "Notes 44A to 44C were inserted by S.I. 1995/857."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1996/1378/schedule/2/paragraph/16",
    "retrieved_at": "2026-10-29T12:43:08.451955+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}