# The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1996, Paragraph 16


For notes 44 to 44C, substitute—
“44 Rhowch y swm net os caiff eich pensiwn neu eich blwydd-dâl ymddeol ei drethu.
44A Mae hyn yn golygu pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth Sosialwyr Cenedlaethol o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu gyfraith Gweriniaeth Awstria.
44B Ystyr “pensiwn personol” yw pensiwn neu daliad cyfnodol arall o dan gynllun pensiwn personol o fewn ystyr adran 191 Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 gan gynnwys, yn achos enillwr hunan-gyflogedig, cynllun a gymeradwyir gan Fwrdd Cyllid y Wlad o dan Bennod IV Rhan XIV Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.
44C Telir pensiynau atodol i weddwon aelodau’r lluoedd arfog, er enghraifft: (i) lle mae’r weddw yn 40 oed neu drosodd; (ii) lle na all ei chynnal ei hun; neu (iii) mewn perthynas â rhai o blant ei diweddar ŵr.
44D Crybwyllwch unrhyw bensiwn cyfatebol a dderbynnir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad oherwydd diffyg talu pensiwn o’r fath, beth bynnag y bo’i darddiad.
44E Mae hyn yn golygu pensiwn sy’n daladwy i weddw o dan Orchymyn Pensiynau Gwasanaeth (Anabledd a Marwolaeth) Lluoedd Llyngesol, Milwrol ac Awyr Etc. 1983 i’r graddau y bo’r Gorchymyn hwnnw wedi ei wneud o dan Ddeddf Tâl a Phensiynau Llyngesol a Morol 1865 neu Ddeddf Pensiynau a Thâl Iwmoniaeth 1884, neu wedi ei wneud yn unig o dan adran 12(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Amrywiol) 1977 ac unrhyw bwer sydd gan Ei Mawrhydi i wneud darpariaeth pensiwn ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu hanablu neu wedi marw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron.
Crybwyllwch unrhyw bensiwn cyfatebol a dderbynnir o wlad y tu allan i Brydain Fawr. Dylech ateb y cwestiwn hwn hefyd os ydych yn cael digollediad oherwydd diffyg talu pensiwn o’r fath, beth bynnag y bo’i darddiad.
44F Gwneir y taliadau hyn i weddwon personau a laddwyd cyn 31 Mawrth 1973 ar wasanaeth cyfatebol i wasanaeth yn lluoedd arfog y Goron.
44G O dan y Cynllun hwn, telir pensiynau a lwfansau i sifilwyr a anafwyd neu a laddwyd yn Rhyfel 1939–45 neu mewn perthynas â hwy.”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1996/1378/schedule/2/paragraph/16 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-16
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

