{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-19",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-19.json",
  "legislation": "uksi/1996/1378",
  "legislation_title": "The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1996",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996",
  "path": "schedule/2/paragraph/19",
  "kind": "paragraph",
  "number": "19",
  "heading": null,
  "text": "After note 51A, insert—\n“51B Dylech ateb “Nac ydwyf” i’r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu’ch partner ar gyfer plentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.22 a lle bo’r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu’r gofal.\n52 Yr ysgolion a’r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru o dan adran 71 Deddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 Atodlen 9 y Ddeddf honno, yw:\n(a) gan baragraff 3 Atodlen 9—\nysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;\nysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;\nysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 Deddf Addysg 1944;\nysgol annibynnol;\nysgol a gynorthwyir â grant;\nysgol a gynhelir â grant;\nysgol hunan-lywodraethol;\ncanolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 Deddf Addysg 1944;\nlle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr iddo yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad; a\n(b) gan baragraff 4 yr Atodlen honno—\ncartref plant cofrestredig;\ncartref gwirfoddol;\ncartref cymunedol;\ncartref gofal breswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae gofyn eu cofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;\nun o ysbytai’r gwasanaeth iechyd;\ncartref a gaiff ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan yr Ysgrifennydd Gwladol;\nlle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu’r person arall sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad.”.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1996/1378/schedule/2/paragraph/19",
    "retrieved_at": "2026-10-29T12:43:08.451955+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}