# The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1996, Paragraph 19


After note 51A, insert—
“51B Dylech ateb “Nac ydwyf” i’r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu’ch partner ar gyfer plentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.22 a lle bo’r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu’r gofal.
52 Yr ysgolion a’r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru o dan adran 71 Deddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 Atodlen 9 y Ddeddf honno, yw:
(a) gan baragraff 3 Atodlen 9—
ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;
ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;
ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 Deddf Addysg 1944;
ysgol annibynnol;
ysgol a gynorthwyir â grant;
ysgol a gynhelir â grant;
ysgol hunan-lywodraethol;
canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 Deddf Addysg 1944;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr iddo yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad; a
(b) gan baragraff 4 yr Atodlen honno—
cartref plant cofrestredig;
cartref gwirfoddol;
cartref cymunedol;
cartref gofal breswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae gofyn eu cofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
un o ysbytai’r gwasanaeth iechyd;
cartref a gaiff ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu’r person arall sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad.”.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1996/1378/schedule/2/paragraph/19 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/housing-renovation-etc-grants-prescribed-forms-and-particulars-welsh-forms-and-particulars-amendment-regulations-1996/schedule-2/paragraph-19
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

