OpenLegislation

Paragraph D

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Mae dau fath o gais ar gyfer grantiau rhannau cyffredin, ac ymdrinir â'r ddau ohonynt yn y ffurflen hon. Os ydych yn berchen rhyddfraint yr adeilad neu denantiaeth ohono ac o leiaf 5 mlynedd ohoni i fynd, gallwch wneud “cais rhannau cyffredin gan landlord” cyhyd a bod gennych hefyd bwer neu ddyletswydd i gyflawni'r gwaith dan sylw. Fel rheôl, os ydych yn denant fflat yn yr adeilad, neu'n meddiannu'r fflat fel eich unig neu eich prif breswylfan a bod dyletswydd arnoch i gyflawni peth neu'r cyfan o'r gwaith neu i gyfrannu at gostau eu cyflawni, gallwch ymuno a “chais rhannau cyffredin gan denantiaid”. Bydd angen i o leiaf dri-chwarter y tenantiaid sydd yn y sefyllfa hon yn yr adeilad ymwneud a chais rhannau cyffredin gan denantiaid: ni allwch wneud cais ar eich pen eich hun. Gall landlordiaid hefyd ymuno a'u tenantiaid (fel “landlordiaid cyfranogi” ) mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid.