OpenLegislation

Paragraph F

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Gall y rhai sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid ddymuno penodi rhywun i gydgysylltu eu cais, ac os cymeradwyir y cais gallai unrhyw ffioedd a dynnwyd gael eu cynnwys yn y costau sy'n sail i gyfrif y grant. Rhagwelir mai un yn unig o'r rhai sy'n cyfranogi fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a fynnir yn Rhannau 1 a 4 y ffurflen; yn achos y wybodaeth a fynnir gan Rannau 2 a 3, rhaid i bob un sy'n cyfranogi gyflwyno'r wybodaeth honno ohono'i hun.