Paragraph C
Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Gellir gwneud eithriadau lle bo'r gwaith yn ofynnôl er mwyn cydymffurfio a rhai rhybuddion (e.e. y rhai a gyflwynir o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985). Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.