# The Housing (Right to Buy) (Prescribed Forms) (Welsh Forms) Regulations 1988, Chapter: Hysbysiad Mynnu'r Hawl i Brynu


Hysbysiad yw hwn a ddefnyddir gan denantiaid cynghorau a rhai tenantiaid arbennig eraill (e.e. tenantiaid trefi newydd a thenantiaid cymdeithasau tai) sydd am arfer eu hawl i brynu eu cartrefi.
Cyn llenwi unrhyw ran o'r hysbysiad hwn darllenwch y y nodiadau sy'n ymwneud â'r rhan honno.
Gall fod o gymorth i chi ddarllen llyfryn y Llywodraeth “Eich Hawl i Brynu'ch Cartref”. Gallwch gael copi oddi wrth eich landlord, mewn Canolfan Cynghori neu drwy ysgrifennu at yr Adran Hysbysrwydd, Y Swyddfa Gymreig, Parc Cathays, Caerdydd CF1 3NQ.
Os hoffech gael cyngor, gallwch gael cymorth yn y Ganolfan Cynghori neu ymgynghori â chyfreithiwr. Fe all y byddwch yn gymwys i gael cymorth i dalu cyfreithiwr am ei gyngor o dan y Cynllun Cymorth Cyfreithiol.
Ar ôl i chi lenwi'r hysbysiad hwn, ewch ag ef, neu ei anfon drwy'r post a defnyddio'r gwasanaeth dosbarthiad a gofnodwyd, ateich landlord. Os ewch ag ef eich hun gofynnwch am dderbynneb. Cadwch gopi o'r hysbysiad ar ôl i chi ei lenwi.
AT Y LANDLORD

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1988/1265/schedule/1/part/1/chapter (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/housing-right-to-buy-prescribed-forms-welsh-forms-regulations-1988/schedule-1/part-1/chapter
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

