{
  "url": "https://openlegislation.uk/housing-right-to-buy-prescribed-forms-welsh-forms-regulations-1994/note",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/housing-right-to-buy-prescribed-forms-welsh-forms-regulations-1994/note.json",
  "legislation": "uksi/1994/2932",
  "legislation_title": "The Housing (Right to Buy) (Prescribed Forms) (Welsh Forms) Regulations 1994",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/housing-right-to-buy-prescribed-forms-welsh-forms-regulations-1994",
  "path": "note",
  "kind": "note",
  "number": null,
  "heading": "Explanatory note",
  "text": "(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)\nMae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiynau Cymraeg o ffurflenni hysbysiad y Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) 1986, fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) (Diwygio) 1989, 1990, 1992 a 1993.\nMae Rheoliad 1(3) yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol a oedd yn pennu fersiynau Cymraeg o ffurflenni'r hysbysiadau a bennwyd gan Reoliadau gwreiddiol 1986.\nY ffurflenni y pennir fersiynau Cymraeg ar eu cyfer gan y Rheoliadau hyn yw:—\nAtodlen 1\na. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan denant diogel i wneud cais am yr Hawl i Brynu (ffurflen RTB1).\nAtodlen 2\nb. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan landlord i dderbyn neu wadu cais y tenant (ffurflen RTB2).\nAtodlen 3\nc. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan denantiaid sy'n wneud cais am yr hawl i gaffael ar delerau rhent i forgais (ffurflen RTB3).\nAtodlen 4\nd. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan landlord i dderbyn neu wadu cais y tenant am gaffael ar delerau rhent i forgais (ffurflen RTB3A).",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/2932/note",
    "retrieved_at": "2026-10-29T13:23:04.096069+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}