# The Housing (Right to Buy) (Prescribed Forms) (Welsh Forms) Regulations 1994, Note: Explanatory note


(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiynau Cymraeg o ffurflenni hysbysiad y Rheoliadau Tai (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) 1986, fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau (Hawl i Brynu) (Ffurflenni Penodedig) (Diwygio) 1989, 1990, 1992 a 1993.
Mae Rheoliad 1(3) yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol a oedd yn pennu fersiynau Cymraeg o ffurflenni'r hysbysiadau a bennwyd gan Reoliadau gwreiddiol 1986.
Y ffurflenni y pennir fersiynau Cymraeg ar eu cyfer gan y Rheoliadau hyn yw:—
Atodlen 1
a. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan denant diogel i wneud cais am yr Hawl i Brynu (ffurflen RTB1).
Atodlen 2
b. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan landlord i dderbyn neu wadu cais y tenant (ffurflen RTB2).
Atodlen 3
c. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan denantiaid sy'n wneud cais am yr hawl i gaffael ar delerau rhent i forgais (ffurflen RTB3).
Atodlen 4
d. Ffurflen yr hysbysiad i'w ddefnyddio gan landlord i dderbyn neu wadu cais y tenant am gaffael ar delerau rhent i forgais (ffurflen RTB3A).

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1994/2932/note (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/housing-right-to-buy-prescribed-forms-welsh-forms-regulations-1994/note
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

