{
  "url": "https://openlegislation.uk/official-controls-extension-of-transitional-periods-miscellaneous-amendments-regulations-2024/regulation-7",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/official-controls-extension-of-transitional-periods-miscellaneous-amendments-regulations-2024/regulation-7.json",
  "legislation": "uksi/2024/20",
  "legislation_title": "The Official Controls (Extension of Transitional Periods) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2024",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/official-controls-extension-of-transitional-periods-miscellaneous-amendments-regulations-2024",
  "path": "regulation/7",
  "kind": "regulation",
  "number": "7",
  "heading": "Amendments to the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 (Welsh language text)",
  "text": "(1) The Welsh language text of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 is amended as follows.\n(2) In regulation 2 (dehongli), at the end insert—\n“(4) Mae gan y termau a ddefnyddir yn Atodlen 6 yr un ystyr ag yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.”.\n(3) In Schedule 5—\n(a) in paragraph 5—\n(i) omit sub-paragraph (3A)(b) and the “neu” before it;\n(ii) omit sub-paragraph (3B);\n(iii) after sub-paragraph (3A), insert—\n“(3C) Mewn perthynas â’r cynhyrchion perthnasol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) sy’n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, nid yw’r gofyniad i gael rhaghysbysiad am y nwyddau cyn dod i mewn yn berthnasol os bodlonir yr amod yn is-baragraff (3CH).\n(3CH) Yr amod yw bod y nwyddau yn nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon sydd, wrth iddynt fynd o Ogledd Iwerddon i Gymru, wedi pasio drwy Weriniaeth Iwerddon ac heb basio drwy unrhyw diriogaeth arall.”;\n(iv) after sub-paragraph (4)(b), insert—\n“(c) mae i “nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir gan reoliad 3 o Reoliadau Diffiniad o Nwyddau Cymwys Gogledd Iwerddon (Ymadael â’r UE) 2020.”;\n(b) in paragraph (6)—\n(i) omit sub-paragraph (1)(b)(ii);\n(ii) after sub-paragraph (1)(b), insert—\n“(ba) o 31 Ionawr 2024—\n(i) ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—\n(aa) y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu\n(bb) pan fyddant yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (1A) neu a restrwyd yn is-baragraff (1B), dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch; a\n(ii) ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys sgil-gynnyrch anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—\n(aa) yn achos nwyddau a restrir yng ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 6 sydd wedi’u nodi ar y dystysgrif iechyd eu bod at ddibenion defnydd (neu ddefnydd o fath) a grybwyllir mewn perthynas â’r nwyddau hynny yng ngholofn 2 y tabl hwnnw, y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu\n(bb) mewn unrhyw achos arall, dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch.”;\n(c) after sub-paragraph (1) insert—\n“(1A) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw eu bod—\n(a) yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol; a\n(b) wedi’u pacio’n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac\n(c) nad ydynt yn un o’r categorïau canlynol o nwyddau—\n(i) fformiwla babanod;\n(ii) fformiwla ddilynol;\n(iii) bwyd babanod;\n(iv) bwyd at ddibenion meddygol arbennig;\n(v) cwyr gwenyn;\n(vi) paill;\n(vii) glud gwenyn;\n(viii) jeli’r frenhines; neu\n(ix) cynhyrchion sy’n deillio o folysgiaid dwygragennog byw, ecinodermau byw, tiwniogogion byw a boldroediadau morol byw.\n(1B) Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw—\n(a) Gwladol o dan Erthygl 3(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/275 neu y cyfeirir atynt yn Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, ac eithrio cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv) a (ix);\n(b) cynhyrchion llaeth neu gynhyrchion sy’n seiliedig ar golostrwm a gafodd eu trin â gwres fel y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(1) o Bennod 2, Adran 9 o Atodlen 3 i Reoliadau 853/2004, ac eithrio llaeth ffres a’r cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv);\n(c) cynhyrchion pysgodfeydd ffres neu gynhyrchion pysgodfeydd parod sydd—\n(i) o anifeiliaid gwyllt dŵr croyw neu ddŵr môr o rywogaethau heblaw am deuluoedd y Scombridae, Clupeidae, Engraulidae, Coryfenidae, Pomatomidae, neu Scombresosidae, a\n(ii) naill ai ddim yn fyw neu ddim yn hyfyw;\n(ch) gelatin;\n(d) colagen;\n(dd) cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid;\n(e) mêl;\n(f) braster anifail wedi ei rendro;\n(ff) criwsion.”.\n(d) in sub-paragraph (2), after “is-baragraff (1)(b)” insert “a (ba)”;\n(e) after sub-paragraph (2), insert—\n“(3) yn y paragraff hwn—\n(a) ystyr “cynnyrch sy’n seiliedig ar golostrwm” yw’r hyn a roddir ym mhwynt 2 o Adran 9 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;\n(b) ystyr “colagen”, “cynnyrch llaeth”, “cynnyrch pysgodfeydd”, “cynhyrchion pysgodfeydd ffres”, “gelatin” “criwsion”, “cynhyrchion pysgodfeydd parod” a “braster anifail wedi’i rendro” yw’r hyn a roddir yn Atodiad 1 o Reoliad (EC) 853/2004;\n(c) ystyr “cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid” yw’r cynhyrchion a restrir ym mhwynt 1 o Adran 16 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;\n(ch) ystyr “fformiwla babanod”, “fformiwla ddilynol”, “bwyd babanod” a “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yw’r hyn a roddir yn Erthygl 2 o Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewidion deiet cyfan ar gyfer rheoli pwysau;\n(d) “ddim yn hyfyw” yn golygu na fyddent yn gallu goroesi fel anifeiliaid byw pe byddent yn cael eu dychwelyd i’r amgylchedd y daethant ohono;\n(dd) Mae Rheoliad 853/2004 yn golygu Rheoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid;\n(e) “yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol” yn golygu nad oes angen eu cludo neu eu storio ar dymheredd a reolir.”.\n(4) After Schedule 5, insert Schedule 6 contained in Schedule 3 to these Regulations.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "S.I. 2011/2379 (W. 252). Schedule 5 was inserted by S.I. 2020/1612 (W. 337) and amended by S.I. 2021/384 (W. 122), 847 (W. 197), 1094 (W. 260) and 1480 (W. 382)."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f2",
      "text": "S.I. 2020/1454."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f3",
      "text": "EUR 2013/609, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/651."
    },
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f4",
      "text": "EUR 2004/853, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/2024/20/regulation/7",
    "retrieved_at": "2026-10-28T21:36:14.581532+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}