# The Official Controls (Extension of Transitional Periods) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2024, Schedule 3: Insertion of Schedule 6 to the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 (Welsh language text)


“ATODLEN 6
Trefniadau mewnforio trosiannol: sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid lle mae’n rhaid cael tystysgrif iechyd wrth fewnforio
paragraff 6(1)(ba)(ii)(aa) o Atodlen 5
Colofn 1
Disgrifiad o’r Cynnyrch
Colofn 2
Defnydd arfaethedig ym Mhrydain Fawr
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes ac eithrio bwyd anifeiliaid anwes amrwd
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid at ddefnydd heblaw am y gadwyn fwydo
Sgil-gynhyrchion gwenynyddiaeth
Gwenynyddiaeth
Gwaed a chynhyrchion gwaed heb eu trin o equidae
Heblaw am ddeunydd bwyd anifeiliaid
Cynhyrchion gwaed heb eu trin, sy’n cynnwys y rheini o equidae
Ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid at ddefnydd heblaw am y gadwyn fwydo anifeiliaid fferm
Cynhyrchion gwaed
Deunydd bwyd anifeiliaid
Colagen
Deunydd bwyd anifeiliaid
Colostrwm a chynhyrchion colostrwm o anifeiliaid buchol
Deunydd bwyd anifeiliaid
Ffosffad dicalsiwm
Deunydd bwyd anifeiliaid
Stribedi cnoi i gŵn
Ar gyfer anifeiliaid anwes
Cynhyrchion wyau
Deunydd bwyd anifeiliaid
Deilliadau braster
Deunydd bwyd anifeiliaid
Cyflasynnau o’r perfedd
Gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes
Olew pysgod
Deunydd bwyd anifeiliaid
Troffïau hela heb eu trin neu gymysgeddau o adar a charnolion sy’n cynnwys rhannau anatomegol cyfan
Heblaw am ddeunydd bwyd anifeiliaid
Gelatin
Deunydd bwyd anifeiliaid
Protein wedi’i hydroleiddio
Deunydd bwyd anifeiliaid
Llaeth, cynhyrchion seiliedig ar laeth a chynhyrchion sy’n deillio o laeth
Deunydd bwyd anifeiliaid
Blew mochyn
Unrhyw ddefnydd cyfreithlon
Protein anifeiliaid wedi’i brosesu
Deunydd bwyd anifeiliaid, ac eithrio bwyd anifeiliaid anwes
Protein anifeiliaid wedi’i brosesu ac eithrio’r rheini sy’n deillio o bryfed a ffermir, gan gynnwys cymysgeddau a chynhyrchion heblaw am fwyd anifeiliaid anwes sy’n cynnwys protein o’r fath
Heblaw am ddeunydd bwyd anifeiliaid
Bwyd anifeiliaid anwes amrwd
Bwyd anifeiliaid anwes
Brasterau wedi’u rendro
Deunydd bwyd anifeiliaid
Samplau masnach
Samplau masnach
Ffosffad tricalsiwm
Deunydd bwyd anifeiliaid
Crwyn heb eu trin a chrwyn o garnolion
Unrhyw ddefnydd cyfreithlon
”

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/2024/20/schedule/3 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/official-controls-extension-of-transitional-periods-miscellaneous-amendments-regulations-2024/schedule-3
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

