{
  "url": "https://openlegislation.uk/police-and-crime-commissioner-elections-welsh-forms-order-2021/schedule-1/part-2",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/police-and-crime-commissioner-elections-welsh-forms-order-2021/schedule-1/part-2.json",
  "legislation": "uksi/2021/291",
  "legislation_title": "The Police and Crime Commissioner Elections (Welsh Forms) Order 2021",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/police-and-crime-commissioner-elections-welsh-forms-order-2021",
  "path": "schedule/1/part/2",
  "kind": "part",
  "number": "2",
  "heading": "Welsh version of questions to be put to voters",
  "text": "Person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio\nCwestiynau\n1 Person sy’n gwneud cais fel etholwr\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr etholwyr fel a ganlyn (rhaid i chi ddarllen yn uchel y cofnod cyfan o’r gofrestr)? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, ac eithrio fel dirprwy i rywun arall? [R]\n2 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw yn ymddangos fel A B ar y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]\n(c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R]\n(d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R]\n(e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n(f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n3 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar gyfer etholwr â chofnod dienw (yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2)\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) Ai chi yw’r person y mae hawl ganddo bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]\n(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif (darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]\n(c) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran pedwar etholwr neu fwy? [R]\n(d) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb negyddol i gwestiwn (c): “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy yn yr etholiad hwn neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu gyda’r diwrnod pleidleisio ar ei gyfer heddiw, p’un a wnaethoch hynny yma neu rywle arall yn ardal yr heddlu hwn neu yn ardal unrhyw heddlu arall, ar ran ddau etholwr neu fwy?” [R]\n(e) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (d): “A oedd dau neu fwy o’r etholwyr y gwnaethoch bleidleisio ar eu rhan yn yr etholiad hwn, neu mewn unrhyw etholiad arall ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu, wedi’u cofrestru mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n(f) Os bydd yr unigolyn yn rhoi ateb cadarnhaol i gwestiwn (e): “A yw’r etholwr (etholwyr) rydych yn pleidleisio ar ei ran (eu rhan) heddiw wedi’i gofrestru (wedi’u cofrestru) mewn cofrestr o etholwyr ac eithrio yn unol â datganiad gwasanaeth?” [R]\n5 Person sy’n gwneud cais fel etholwr y mae cofnod ganddo ar y rhestr pleidleiswyr post\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post?\n(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post?\n6 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y mae cofnod ganddo ar y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post\n(za) Beth yw’ch enw?\n(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?\n(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?\n(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "F",
      "label": "F1",
      "text": "Sch. 1 Pt. 2 substituted (31.1.2024) by The Representation of the People (Postal and Proxy Voting etc.) (Amendment) Regulations 2023 (S.I. 2023/1147), reg. 1(3)(h), Sch. 12 Pt. 1 (with Sch. 2 paras. 18, 21(1))"
    },
    {
      "type": "C",
      "label": "C1",
      "text": "Sch. 1 Pt. 2 modified (temp.) (31.10.2023) by The Representation of the People (Postal and Proxy Voting etc.) (Amendment) Regulations 2023 (S.I. 2023/1147), reg. 1(2), Sch. 2 para. 21(2)(4), Pt. 7"
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/2021/291/schedule/1/part/2",
    "retrieved_at": "2026-10-28T22:16:07.696147+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}