# Referendums (Scotland and Wales) Act 1997, Paragraph


1. Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siwr iddo gael ei stampio â’r marc swyddogol.
2. Ewch â’r papur pleidleisio i un o’r cabanau pleidleisio a darllenwch ef yn ofalus. Ar y papur pleidleisio rhowch groes (X) yn y blwch i’r dde o’r gosodiad yr ydych yn pleidleisio drosto. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
3. Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i’r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o’r orsaf bleidleisio.
4. Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a’i ddangos i’r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/ukpga/1997/61/schedule/APPENDIX/paragraph/wrapper6 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/referendums-scotland-and-wales-act-1997/schedule-APPENDIX/paragraph-wrapper6
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

