OpenLegislation

Paragraph 15

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Atebwch “Ydw/Ydy” i'r cwestiwn hwn hyd yn oed—

(a)

os byddai hawl gennych chi neu'ch partner i gael lwfans gofal analluedd oni bai am fudd-dâl sy'n gorgyffwrdd (h.y. budd-dâl anafiadau, atodiad i'r anghyflogadwy, budd-dâl marwolaeth ddiwydiannol, budd-dâl marwolaeth pensiynau rhyfel, a lwfans hyfforddi); neu

(b)

os ydych chi a'ch partner yn cael taliad consesiynol fel iawndal am lwfans gofal analluedd na chafodd ei dalu; neu

(c)

os byddech chi neu'ch partner yn cael y lwfans, ond bod y person yr oeddech chi, neu'ch partner, yn gofalu amdano yn glaf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg am gyfnod hwy na 28 o ddiwrnodau.