{
  "url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-43",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-43.json",
  "legislation": "uksi/1999/2315",
  "legislation_title": "The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999",
  "path": "schedule/paragraph/43",
  "kind": "paragraph",
  "number": "43",
  "heading": null,
  "text": "Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:\nlwfans gweini;\nbudd-dâl treth gyngor;\nlwfans byw i'r anabl;\nlwfans gwarcheidwad;\nbudd-dâl tai;\nunrhyw lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 4.1 a 4.22);\ntaliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;\ntaliadau o'r Gronfa, h.y. arian sydd wedi'i roi ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;\ntaliadau o dan gynllun “busnes ar eich liwt eich hun”, y “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “tocynnau teithio i'r gwaith”;\ntaliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.\ntaliadau atodol gorfodol a wnaed i chi am gymryd rhanyn Newis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd neu yn Newis Tasglu Amglychedd y Fargen Newydd lle'r ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;\ntaliadau disgresiynol ar gyfer anghenion arbennig a wnaed i chi am gymryd rhan yn Newis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;\nGellir anwybyddu budd-daliadau a lwfansau penodol eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a oes modd ei anwybyddu ai peidio.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [
    {
      "type": "amended",
      "affecting": "wsi/1999/3469",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Form of Application) and (Welsh Form of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 1999"
    },
    {
      "type": "amended (form amended)",
      "affecting": "wsi/2000/1710",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 2000"
    }
  ],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/43",
    "retrieved_at": "2026-10-29T10:04:15.317933+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}