OpenLegislation

Paragraph 45B

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau incwm a gawsoch am gymryd rhan yn y canlynol—

  • Dewis Cyflogaeth y Fargen Newydd;

  • Dewis Sector Gwirfoddol y Fargen Newydd;

  • Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd;

  • Dewis Addysg a Hyfforddiant Amser-Llawn y Fargen Newydd;

  • cwrs cysylltiedig â chyflogaeth nad yw'n para'n hwy na deuddeng mis yn olynol ac sy'n cyrraedd y safon sy'n ofynnol o dan reoliad 17A o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996;

  • oni fydd y paragraff dilynol yn gymwys.

  • Lle'r ydych yn cael neu wedi cael cymorth er mwyn sefydlu neu gyflawni gweithgaredd masnachol o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, dylech grybwyll unrhyw daliadau i'ch galluogi i dalu'r treuliau wrth gyflawni'r gweithgaredd hwnnw, neu wneud ad-daliadau ar fenthyciad cysylltiedig. Lle'r ydych yn mynychu cwrs sy'n ymwneud â'ch gwaith, dylech grybwyll hefyd unrhyw daliad a gawsoch mewn cysylltiad â'ch anghenion arbennig.