# The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999, Paragraph 46A


Ystyr “taliadau yswiriant” yw unrhyw daliadau a geir o dan bolisi yswiriant i alluogi gwneud ad-daliadau:
(a) ar forgais eich cartref eich hun;
(b) ar gytundeb credyd defnyddwyr neu gytundeb hur defnyddwyr a reoleiddir gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974; neu
(c) ar gytundeb hurbrynu neu gytundeb gwerthiant amodol fel y'u diffinnir at ddibenion Deddf Hurbrynu 1964.
Anwybyddir y taliadau hyn i'r graddau nad ydynt yn uwch na'r swm y mae ei angen er mwyn caniatáu i'r ad-daliadau uchod gael eu gwneud. O ran eich morgais, bydd y swm i'w anwybyddu yn cynnwys unrhyw swm y mae angen i dalu premiymau ar bolisi yswiriant adeiladau sy'n ofynnol yn ôl telerau'r morgais ar eich cartref.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/46A (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-46A
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

