{
  "url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-50",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-50.json",
  "legislation": "uksi/1999/2315",
  "legislation_title": "The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999",
  "path": "schedule/paragraph/50",
  "kind": "paragraph",
  "number": "50",
  "heading": null,
  "text": "Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:\nglo mantais neu daliadau a wnaed yn lle hynny o dan adran 19(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Glo 1994;\nbudd-dâl treth gyngor;\nbudd-dâl tai, neu daliadau trosiannol o fudd-dâl tai;\ntaliadau “Rhan III” (gweler Nodyn 45);\ntaliadau yswiriant (gweler Nodyn 46A);\ntaliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;\ntaliadau o'r Gronfa (gweler Nodyn 43);\ntaliadau o dan gynllun “busnes ar eich liwt eich hun”, “gwasanaeth darllenydd personol” neu gynllun “tocynnau teithio i'r gwaith”;\ntaliadau “cychwyn” i weithwyr cartref sy'n cael cymorth o dan Gynllun Gweithwyr Cartref Dall;\ntaliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;\nunrhyw daliad a wneir i chi neu'ch partner fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr; neu\nunrhyw fonws yn-ôl-i'r-gwaith sy'n daladwy fel lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm yn unol ag adran 26 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, neu daliad cyfatebol o dan erthygl 28 o Orchymyn Ceisio Gwaith (Gogledd Iwerddon) 1995.\nGellir anwybyddu mathau penodol eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a ddylid ei anwybyddu ai peidio.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [
    {
      "type": "amended",
      "affecting": "wsi/1999/3469",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Form of Application) and (Welsh Form of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 1999"
    },
    {
      "type": "amended (form amended)",
      "affecting": "wsi/2000/1710",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 2000"
    }
  ],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/50",
    "retrieved_at": "2026-10-29T10:04:15.317933+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}