# The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999, Paragraph 50


Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
glo mantais neu daliadau a wnaed yn lle hynny o dan adran 19(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Glo 1994;
budd-dâl treth gyngor;
budd-dâl tai, neu daliadau trosiannol o fudd-dâl tai;
taliadau “Rhan III” (gweler Nodyn 45);
taliadau yswiriant (gweler Nodyn 46A);
taliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;
taliadau o'r Gronfa (gweler Nodyn 43);
taliadau o dan gynllun “busnes ar eich liwt eich hun”, “gwasanaeth darllenydd personol” neu gynllun “tocynnau teithio i'r gwaith”;
taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref sy'n cael cymorth o dan Gynllun Gweithwyr Cartref Dall;
taliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
unrhyw daliad a wneir i chi neu'ch partner fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr; neu
unrhyw fonws yn-ôl-i'r-gwaith sy'n daladwy fel lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm yn unol ag adran 26 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, neu daliad cyfatebol o dan erthygl 28 o Orchymyn Ceisio Gwaith (Gogledd Iwerddon) 1995.
Gellir anwybyddu mathau penodol eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a ddylid ei anwybyddu ai peidio.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/50 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-50
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

