{
  "url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-51",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-51.json",
  "legislation": "uksi/1999/2315",
  "legislation_title": "The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999",
  "path": "schedule/paragraph/51",
  "kind": "paragraph",
  "number": "51",
  "heading": null,
  "text": "Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo tramor. Soniwch ar wahân am unrhyw dir yr ydych yn cael rhent amdano o dan brydles sy'n bodoli eisoes neu is-brydles.\nNid oes rhaid i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:\neich cartref eich hun;\nyr eiddo sy'n destun i'r cais hwn;\nunrhyw eiddo a feddiannir gan berthynas oedrannus (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas i chi sydd wedi'i (h)analluogi, neu aelod o'ch teulu fel ei (h)unig neu brif breswylfa. Mae “perthynas” yn cynnwys unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni-yng-nghyfraith, llys-rieni, meibion, merched, meibion- a merched-yng-nghyfraith, llysfeibion a llysferched, brodyr a chwiorydd, teidiau a neiniau (tad-cuod a mam-guod), wyrion ac wyresau, ewythredd a modrybedd, neiaint a nithoedd;\nos ydych yn hunan-gyflogedig, asedau'ch busnes;\ncyfalaf a weinyddir gan lysoedd Cymru a Lloegr neu'r Alban ar gyfer unrhyw berson, sy'n tarddu o ddyfarnu iawndal am anaf personol i'r person hwnnw neu, yn achos person o dan 18 oed, sy'n tarddu o iawndal am farwolaeth un o'i r(h)ieni neu'r ddau ohonynt.\nGellir anwybyddu taliadau cyfalaf penodol eraill hefyd wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a fydd modd ei anwybyddu ai peidio.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [
    {
      "type": "amended",
      "affecting": "wsi/1999/3469",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Form of Application) and (Welsh Form of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 1999"
    },
    {
      "type": "amended (form amended)",
      "affecting": "wsi/2000/1710",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 2000"
    }
  ],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/51",
    "retrieved_at": "2026-10-29T10:04:15.317933+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}