# The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999, Paragraph 51


Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo tramor. Soniwch ar wahân am unrhyw dir yr ydych yn cael rhent amdano o dan brydles sy'n bodoli eisoes neu is-brydles.
Nid oes rhaid i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:
eich cartref eich hun;
yr eiddo sy'n destun i'r cais hwn;
unrhyw eiddo a feddiannir gan berthynas oedrannus (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas i chi sydd wedi'i (h)analluogi, neu aelod o'ch teulu fel ei (h)unig neu brif breswylfa. Mae “perthynas” yn cynnwys unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni-yng-nghyfraith, llys-rieni, meibion, merched, meibion- a merched-yng-nghyfraith, llysfeibion a llysferched, brodyr a chwiorydd, teidiau a neiniau (tad-cuod a mam-guod), wyrion ac wyresau, ewythredd a modrybedd, neiaint a nithoedd;
os ydych yn hunan-gyflogedig, asedau'ch busnes;
cyfalaf a weinyddir gan lysoedd Cymru a Lloegr neu'r Alban ar gyfer unrhyw berson, sy'n tarddu o ddyfarnu iawndal am anaf personol i'r person hwnnw neu, yn achos person o dan 18 oed, sy'n tarddu o iawndal am farwolaeth un o'i r(h)ieni neu'r ddau ohonynt.
Gellir anwybyddu taliadau cyfalaf penodol eraill hefyd wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a fydd modd ei anwybyddu ai peidio.

---
Source: https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/51 (the official version)
Page: https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-51
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives.

