{
  "url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-54",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999/schedule/paragraph-54.json",
  "legislation": "uksi/1999/2315",
  "legislation_title": "The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-form-of-application-welsh-form-of-application-regulations-1999",
  "path": "schedule/paragraph/54",
  "kind": "paragraph",
  "number": "54",
  "heading": null,
  "text": "Dyma'r ysgolion a'r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, ac sydd wedi'u hesemptio rhag cofrestru o dan adran 71 o Ddeddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno:\n(a) gan baragraff 3 o Atodlen 9—\nysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;\nysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;\nysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 o Ddeddf Addysg 1944;\nysgol annibynnol;\nysgol a gynorthwyir â grant;\nysgol a gynhelir â grant;\nysgol hunanlywodraethol;\ncanolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 o Ddeddf Addysg 1944;\npan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd wedi'u gwneud gan y person sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan un o'i weithwyr cyflogedig yn y sefydliad a hwnnw wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad; a\n(b) gan baragraff 4 o'r Atodlen honno—\ncartref plant cofrestredig;\ncartref gwirfoddol;\ncartref cymuned;\ncartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;\nysbyty gwasanaeth iechyd;\ncartref a ddarperir, a gyfarperir ac a gynhelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol; pan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu unrhyw berson arall sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan weithiwr cyflogedig yn y sefydliad sydd wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad.",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [],
  "outstanding_effects": [
    {
      "type": "amended",
      "affecting": "wsi/1999/3469",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Form of Application) and (Welsh Form of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 1999"
    },
    {
      "type": "amended (form amended)",
      "affecting": "wsi/2000/1710",
      "affecting_title": "The Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment) (Wales) Regulations 2000"
    }
  ],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/uksi/1999/2315/schedule/paragraph/54",
    "retrieved_at": "2026-10-29T10:04:15.317933+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}