{
  "url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-forms-of-application-amendment-no-2-wales-regulations-2001/regulation-3",
  "json_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-forms-of-application-amendment-no-2-wales-regulations-2001/regulation-3.json",
  "legislation": "wsi/2001/4008",
  "legislation_title": "The Relocation Grants (Forms of Application) (Amendment No. 2) (Wales) Regulations 2001",
  "legislation_url": "https://openlegislation.uk/relocation-grants-forms-of-application-amendment-no-2-wales-regulations-2001",
  "path": "regulation/3",
  "kind": "regulation",
  "number": "3",
  "heading": "Amendments",
  "text": "In the (Welsh language) form set out in the Schedule to the Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999:\n(a) after question 4.34A insert:\n“4.34B Rhowch fanylion unrhyw daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu neu fanylion unrhyw daliad sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu gan berson arall neu o ystad person arall ac sydd wedi'i dalu o daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD a gafodd y person arall hwnnw. Nodyn 50E”;\n(b) after note 50D insert:\n“50E Taliad o'r ymddiriedolaeth vCJD yw taliad sy'n cael ei dalu, o ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu gan yr Adran Iechyd, i'r rhai a gafodd amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob (vCJD) a'u teuluoedd agos.\nEr mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr “teulu” yw:\n(a) pâr priod neu bâr dibriod;\n(b) pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc;\n(c) person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.\nMae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.\nMae taliad sydd wedi'i dalu i riant dioddefwr vCJD, ni waeth beth fo oedran y dioddefwr, neu i berson sydd neu a oedd yn gweithredu yn lle rhiant i blentyn dibynnol sy'n ddioddefwr, yn cael ei anwybyddu am 2 flynedd o'r dyddiad y cafodd y taliad ei dalu iddynt.\nMae taliadau sydd wedi'u talu i blant neu bersonau ifanc dibynnol yn cael eu hanwybyddu drwy gydol y cyfnod o ddyddiad y taliad tan y diwrnod cyn iddynt ymadael ag addysg amser-llawn neu'r diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed neu am 2 flynedd o ddyddiad y taliad, p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.?C?”",
  "extent": null,
  "status": null,
  "version": "current",
  "annotations": [
    {
      "type": "footnote",
      "label": "f1",
      "text": "S.I. 1999/2315 as amended by S.I. 1999/3469 (W. 55), 2000/1710 (W. 116) and 2001/2072 (W. 144)."
    }
  ],
  "outstanding_effects": [],
  "provenance": {
    "source": "legislation.gov.uk",
    "source_url": "https://www.legislation.gov.uk/wsi/2001/4008/regulation/3",
    "retrieved_at": "2026-10-29T00:15:06.467117+00:00"
  },
  "licence": "Open Government Licence v3.0",
  "licence_url": "https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/",
  "attribution": "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Source: legislation.gov.uk, The National Archives."
}